Couverture de GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws

De : Dr Hanna Hopwood
Écouter gratuitement

À propos de cette écoute

"Croeso i bodlediad Dr Hanna Hopwood sy'n rhoi blas ar sut y gall maes coaching eich cefnogi a Gwneud Bywyd yn Haws!'Dr Hanna Hopwood
Les membres Amazon Prime bénéficient automatiquement de 2 livres audio offerts chez Audible.

Vous êtes membre Amazon Prime ?

Bénéficiez automatiquement de 2 livres audio offerts.
Bonne écoute !
    Épisodes
    • 30 Pennod. 90 o flynyddoedd. A throbwynt | 30
      Jul 30 2025
      Pennod 30. Ar Orffennaf 30. Ar y diwrnod mae fy mamgu yn troi'n 90. A blwyddyn o bodlediad: Haf 2024 - Haf 2025. Doedd dim cynllun lawnsio, dim pwysau, dim ond ymddiriedaeth y byddai'r podlediad yn darganfod y bobl oedd ei angen. Ac mae wedi. Yn y bennod hon, dwi'n myfyrio dros beth mae'n ei olygu i greu rhywbeth oedd â'r bwriad i fod yma i aros - mewn byd sy'n obsesiynol am amserlenni a phethau cyflym, Dwi'n sôn am pam dwi heb fod yn hysbysebu'r podlediad, a pham fod y podlediad yn mynd yn dawel am nawr. Beth sy'n newid... a beth sy ddim am newid! Diolch o galon i Marc Griffiths o Stiwdiobox am bob cymwynas wrth roi'r bennod hon allan i'r byd bob pythefnos dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i Ieuan Wyn am gerddoriaeth ffab pod GBYH. Os wyt ti'n newydd yma - croeso. Cei glywed yn y bennod hon ambell awgrym ar ble i ddechrau yn llyfrgell podlediad GBYH. Ac os wyt ti wedi bod yn gwrando ar y dechrau - diolch. Mae'r bennod hon i chi gyd.
      Afficher plus Afficher moins
      8 min
    • Y bennod olaf ond un | 29
      Jul 9 2025
      Y bennod olaf ond un (am y tro!) - nid hwyl fawr sydd yma - ond dechrau newydd. Cyfle i anrhydeddu beth mae'r gofod hwn wedi bod a chyflwyniad ysgafn i'r hyn sy'n dod.
      Mae'r rhythm ar fin newid - nid achos bod rhywbeth yn dod i ben, ond achos bod rhywbeth arbennig yn barod i ddechrau. Os ydy HARBWR - Ehangu'n Esmwyth yn teimlo fel dy rythm nesaf di, mae croeso i ti ddysgu mwy yma
      Afficher plus Afficher moins
      9 min
    • O na fyddai'n haf o hyd? | 28
      Jun 25 2025
      Os yw'r haf yn gyfnod sy'n teimlo fel ei fod yn llithro rhwng dy ddwylo wrth i ti gadw'r heddwch, cynnal y cynlluniau, a gosod dy anghenion di i'r naill ochr - dyma'r bennod i dy helpu i wasgu pause. Byddi di'n clywed am y posibilrwydd o gael haf sy'n teimlo'n wahanol. Nid un sy'n uwch, nid un sy'n brysurach ond un sy'n teimlo mwy fel dy haf di. Ac mae gwahoddiad cynnes i ti enwi yr hyn rwyt ti eisiau ei deimlo erbyn mis Medi - cyn iddo basio heibio unwaith eto. Dwyt ti ddim angen rhagor o amser. Rwyt ti angen caniatâd i archwilio beth wyt ti ei eisiau. Ac efallai, y tymor hwn, rwyt ti'n gwneud lle i'r cwestiwn: Pam ddim ti? A pham ddim nawr?

      I helpu siapio beth sydd nesaf i ti - dyma'r ddolen ar gyfer yr holiadur byr dwi wedi'i greu. Bydd yn cymryd llai na 3 munud i'w lenwi. Gelli di gael mynediad ato drwy glicio yma.

      Beth am wneud yr haf hwn yr haf ble rwyt ti - o'r diwedd - yn cadw'r addewid i dy hunan mai y tro hwn, bydd pethau'n wahanol.
      Afficher plus Afficher moins
      6 min
    Aucun commentaire pour le moment