Couverture de O na fyddai'n haf o hyd? | 28

O na fyddai'n haf o hyd? | 28

O na fyddai'n haf o hyd? | 28

Écouter gratuitement

Voir les détails

À propos de cette écoute

Os yw'r haf yn gyfnod sy'n teimlo fel ei fod yn llithro rhwng dy ddwylo wrth i ti gadw'r heddwch, cynnal y cynlluniau, a gosod dy anghenion di i'r naill ochr - dyma'r bennod i dy helpu i wasgu pause. Byddi di'n clywed am y posibilrwydd o gael haf sy'n teimlo'n wahanol. Nid un sy'n uwch, nid un sy'n brysurach ond un sy'n teimlo mwy fel dy haf di. Ac mae gwahoddiad cynnes i ti enwi yr hyn rwyt ti eisiau ei deimlo erbyn mis Medi - cyn iddo basio heibio unwaith eto. Dwyt ti ddim angen rhagor o amser. Rwyt ti angen caniatâd i archwilio beth wyt ti ei eisiau. Ac efallai, y tymor hwn, rwyt ti'n gwneud lle i'r cwestiwn: Pam ddim ti? A pham ddim nawr?

I helpu siapio beth sydd nesaf i ti - dyma'r ddolen ar gyfer yr holiadur byr dwi wedi'i greu. Bydd yn cymryd llai na 3 munud i'w lenwi. Gelli di gael mynediad ato drwy glicio yma.

Beth am wneud yr haf hwn yr haf ble rwyt ti - o'r diwedd - yn cadw'r addewid i dy hunan mai y tro hwn, bydd pethau'n wahanol.
Les membres Amazon Prime bénéficient automatiquement de 2 livres audio offerts chez Audible.

Vous êtes membre Amazon Prime ?

Bénéficiez automatiquement de 2 livres audio offerts.
Bonne écoute !
    Aucun commentaire pour le moment