Épisodes

  • STAD
    Dec 16 2025
    Pa mor debyg ydy cyfres STAD â bywyd go iawn yng Nghaernarfon?Dyna un o’r pethau sydd ar feddwl Dyfan a Kate wrth drin a thrafod cyfres nos Sul ddiweddaraf S4C.

    Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa - y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.
    Afficher plus Afficher moins
    35 min
  • Y Golau: Dŵr
    Nov 6 2025
    Un arall o gyfresi trosedd S4C sydd dan y chwyddwydr y mis yma, sef Y Golau: Dŵr.

    Mae’n dilyn stori Caryl Hughes, y myfyriwr prifysgol sy’n astudio newyddiaduraeth, ac sydd nôl yn Llanemlyn ar drywydd stori am gronfa ddŵr yr ardal.

    Yn ôl Kate Woodward, mae yma gyswllt difyr Cymreig rhwng y gyfres â ffilm Yr Ymadawiad, cyfresi Pen Talar ac Under Salt Marsh, a hyd yn oed Pobol y Cwm yn ddiweddar... tybed beth yw hynny? Ac ydy’r gyfres yma’n llwyddo i blesio Kate a Gwilym?

    Gwrandwch ar bodlediad Ar y Soffa i glywed mwy.
    Afficher plus Afficher moins
    43 min
  • The Guest
    Oct 14 2025
    Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod y gyfres BBC, The Guest.

    Mae'n ddrama bedair rhan seicolegol sy’n canolbwyntio ar berthynas beryglus rhwng Ria, glanhäwr ifanc, a’i chyflogwr cyfoethog, Fran. Sut mae pŵer, dosbarth a chyfrinachau tywyll yn cael eu trin yn y gyfres?

    Dyna sy'n mynd â sylw Kate a Gwilym y tro hwn.

    Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa - y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.
    Afficher plus Afficher moins
    38 min
  • Hafiach
    Sep 8 2025
    Yn y bennod hon o Ar y Soffa, mae Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn trafod y gyfres Hafiach.

    Wedi’i gosod yn y Rhyl a Phrestatyn, a'i thargedu at wylwyr 13 oed a thu hwnt.

    Mae’r gyfres yn dod â materion bywyd go iawn i’r sgrin gan gynnwys profiadau ffoaduriaid, trosedd, yr amgylchedd a heriau mewn perthnasoedd.

    Ond a yw 13 oed yn rhy ifanc i wylio’r gyfres?

    Beth yw barn Kate a Gwilym?

    Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa – y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.
    Afficher plus Afficher moins
    45 min
  • Death Valley
    Jun 24 2025
    Yn y bennod hon o Ar y Soffa, drama drosedd sy’n mynd â sylw Gwilym Dwyfor a Kate Woodward.

    Ond nid drama drosedd arferol yw Death Valley. Mae’r gyfres sydd wrthi’n cael ei darlledu ar BBC 1 yn ddrama gomedi sydd wedi’i gosod a’i ffilmio yng Nghymru.

    Cwmni Golwg sy’n cynhyrchu Ar y Soffa – y podlediad sy’n trafod ac yn dadansoddi’r hen a’r newydd yn sîn ffilm a theledu Cymru.
    Afficher plus Afficher moins
    37 min
  • Oed Yr Addewid
    May 21 2025
    Yn y bennod hon, mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod Oed Yr Addewid. Ffilm Gymraeg gan Emlyn Williams a ryddhawyd yn 2001.

    Dyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi'r hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru.

    Podlediad sy’n cael ei gyflwyno gan Dr Kate Woodward, darlithydd o adran theatr, ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Gwilym Dwyfor, colofnydd Ar Y Soffa yng nghylchgrawn Golwg.
    Afficher plus Afficher moins
    46 min
  • Bariau - Cyfres 2
    Apr 15 2025
    Mae’r ddrama garchar gafaelgar, Bariau, wedi dychwelyd ar gyfer ail gyfres gan fynd â ni nol tu ôl i ddrysau Carchar y Glannau.

    Ar ôl digwyddiadau ysgytwol y gyfres gyntaf, mae’r tensiynau o fewn waliau'r carchar yn uwch nag erioed.

    Yn yr ail gyfres, mae’r frwydr am reolaeth yn fwy ffyrnig nag erioed, a does neb yn ddiogel rhag penderfyniadau eu gorffennol.

    Bu Gwilym Dwyfor a Dr Kate Woodward yn ddigon lwcus i gael gwylio’r ddwy bennod gyntaf yn gynnar. Felly beth yw eu barn nhw am yr ail gyfres hyd yn hyn?
    Afficher plus Afficher moins
    39 min
  • Out There
    Mar 31 2025
    Yn y bennod hon, mae Dr Kate Woodward a Gwilym Dwyfor yn edrych ar Out There, y ddrama chwe rhan ar ITV, sydd wedi'i lleoli yng Nghymru.

    Gyda Martin Clunes yn chwarae’r brif ran, mae'r ddrama ddwys hon yn dilyn brwydr anobeithiol tad i achub ei fab rhag crafangau gang cyffuriau.

    Ymunwch â Kate a Gwilym wrth iddyn nhw drafod beth oedd yn gweithio a beth oedd ddim.
    Afficher plus Afficher moins
    43 min