Hello and welcome to this edition of the Presbyterian Podcast with me, Gethin Russell-Jones.
Welsh: Helo a chroeso i'r bennod hon o’r Podlediad Presbyteraidd gyda fi, Gethin Russell-Jones.
English: In this bilingual episode, we’re heading to Llandudno to visit the General Assembly, which took place earlier this month. Welsh: Yn y bennod ddwyieithog hon, ry’n ni’n teithio i Landudno i ymuno â’r Gymanfa Gyffredinol a gynhaliwyd yno yn gynharach yn y mis.
English: We’ll also stop in Port Talbot to hear from Margaret Jones, before returning to Llandudno to enjoy a special song.
Welsh: Teithiwn hefyd i Bort Talbot i glywed gan Margaret Jones, cyn dychwelyd i Landudno i wrando ar gân arbennig.
English: Glynis Owen is the new Moderator of the Presbyterian Church of Wales, taking over from Reverend Aneurin Owen. I had the chance to speak with Glynis during a break at the Assembly, where she shared insights about her life and her hopes for the next two years.
Welsh: Glynis Owen yw llywydd newydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, gan olynu'r Parchedig Aneurin Owen. Cyfarfûm â Glynis yn ystod un o’r egwyliau, lle bu’n rhannu ei phrofiadau a’i gobeithion ar gyfer y ddwy flynedd i ddod.
English: Margaret Jones, who lives in Port Talbot and is a member of the Morgannwg Llundain Presbytery, spoke to us a year ago about her concerns over the planned closure of the steelworks and the damaging impact on the town. Now, twelve months on, she brings us an update.
Welsh: Mae Margaret Jones yn byw ym Mhort Talbot ac yn aelod o Henaduriaeth Morgannwg Llundain. Flwyddyn yn ôl, cododd bryderon ynglŷn â’r cynlluniau i gau’r gwaith dur a’r effaith negyddol ar y gymuned. Nawr, ddeuddeg mis yn ddiweddarach, mae hi’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni.
English: And finally, we’ll hear a beautiful song of blessing written and performed by Patrick Thomas, a mission worker at the Williams Pantycelyn Memorial Church in Llandovery. He shared this moving piece during the General Assembly in Llandudno. Welsh: Ac yn olaf, cawn glywed cân fendith hyfryd, a ysgrifennwyd ac a ganwyd gan Patrick Thomas, gweithiwr cenhadol yn Eglwys Goffa Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Perfformiodd Patrick y gân yn ystod y Gymanfa Gyffredinol yn Llandudno.