Épisodes

  • 93 - Pobol y Cwm, Pwyll ar Netflix a Cardigans Paisley
    Oct 29 2026

    Dydi'r stormydd na'r bwganod methu cadw Mari a Meilir draw o'r siop. Yr wythnos hon, mae yna drafodaeth am ymadawiad Anita o'r gyfres Pobol y Cwm, gêm beldroed rhwng Llanuwchllyn a'r Bala, a mynach weddol enwog ar Ynys Byr... Jesd cliciwch play a dewch mewn o'r glaw. Chi'n gadael drafft mewn!

    Afficher plus Afficher moins
    1 h et 27 min
  • 92 - Sioeau byw, archarwyr Cymraeg a Kelly Clarkson
    Oct 22 2026

    Wedi wythnos o seibiant ar ôl y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth, mae Mari a Meilir yn ôl gyda sioe llawn dop i chi o holl ddigwyddiadau a straeon y pythefnos diwethaf. O saga Kelly Clarkson a'r tegan, sêr Cymru mewn cynhyrchiadau comics mwya'r byd a'r protestiadau yn Ffrainc. Mewn â chi i'r siop, mae hi'n oer tu allan!

    Afficher plus Afficher moins
    1 h et 53 min
  • 91 - BAFTA Cymru, Jonathan Bailey a 'manspreadio'
    Oct 8 2026

    Mae hi'n wythnos y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth ac mae'r siop yn llawn bwrlwm yr wythnos hon wrth i Mari a Meilir baratoi ar gyfer y penwythnos. Ond hefyd rhaid trafod gwobrau'r BAFTAs Cymru, recordiad Dracula newydd Jonathan Bailey a chreision blâs cyw iâr...! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor.

    Afficher plus Afficher moins
    1 h et 26 min
  • 90 - Traitors, VMAs a'r Cornell 7
    Oct 1 2026

    Gofynnwch a chwi a gewch - ma hi'n bennod swmpus arall yr wythnos hon wrth i ni drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos, gan gynnwys gwobrau'r VMAs, cerddoriaeth newydd Taylor Swift ac achos y Cornell 7. Dewch i mewn i'r siop am sgwrs!

    Rhybudd Cynnwys: Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am drais.

    Afficher plus Afficher moins
    1 h et 47 min
  • 89 - Channing Tatum, Ms Rachel a Misteeq
    Sep 24 2026

    Mae'r Hydref wedi cyrraedd ac mae Mari'n swp sâl - ond dydi hynny ddim yn ei rhwystro rhag agor y Siop efo Meilir yr wythnos hon. Mae dyletswydd ganddynt i drafod a gwyntyllu gossip yr wythnos. O burner account honedig Channing Tatum, canslo taith Misteeq i gynhyrchiad newydd yr RSC o As You Like It. Gwnewch baned a swatiwch, mae'r Siop ar agor!

    Afficher plus Afficher moins
    1 h et 45 min
  • 88 - Matthew Rhys, Ed Sheeran a Gwagle
    Sep 17 2026

    Rhag-rybudd: roedd Mari a Meilir yn teimlo'n siaradus IAWN yr wythnos hon felly mae hon yn bennod hirach fyth na'r arfer. Ond yr ôll ddigwyddodd dros yr wythnos ddiwethaf, gallwch chi ddeall pam. O daith ddadleuol Ed Sheeran, drama ym mhlaid R€form Cymru i lwyddiant hanesyddol Matthew Rhys yn ngwobrau yr Emmy's - mae yna gymaint i'w drafod. Felly strap in, folks - dewch i mewn i'r siop!

    Afficher plus Afficher moins
    2 h et 6 min
  • 87 - Tom Jones, P!nk a ghostio
    Sep 10 2026

    Mae yna lwyth o bethau wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos yma. O ymddiswyddiad Tom Jones o The Voice, P!nk yn beirniadu Macklemore a thrafferthion sioe gerdd Burlesque - mae'r silffoedd yn llawn! Felly dewch i mewn i'r siop i wrando ar y clebran. Mae Mari a Meilir yn barod wrth y cownter!

    Afficher plus Afficher moins
    1 h et 40 min
  • 86 - Dolly, Gwyl Llan a BAFTA Cymru
    Sep 3 2026

    Wedi'r holl newyddion trist am golli arwyr yr wythnos yma, mae Mari a Meilir yn falch o ddod nol i'r siop i gael het atgofion am Dolly Parton, Tim Curry ac i glywed am holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Gŵyl Llanuwchllyn ac enwebiadau BAFTA Cymru. Mae'r tywydd wedi troi felly swatiwch ar y soffa efo paned a pwyswch play.

    Afficher plus Afficher moins
    1 h et 26 min